Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Cyllido Ysgolion yng Nghymru | School Funding in Wales

SF 36

Ymateb gan: Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru & Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru

Response from: Welsh Local Government Association (WLGA) & Association of Directors of Education in Wales (ADEW)

 

 

CYFLWYNIAD

 

1.                          Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cynrychioli 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Mae’r tri awdurdod parciau cenedlaethol a’r tri awdurdod tân ac achub yn aelodau cysylltiol.

 

2.                          Mae’n ceisio cynrychioli awdurdodau lleol o fewn fframwaith polisi datblygol sy'n bodloni blaenoriaethau allweddol ein haelodau ac yn darparu ystod eang o wasanaethau sy'n ychwanegu gwerth at Lywodraeth Leol Cymru a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

 

3.                          Mae CLlLC yn falch o allu ymateb i Ymchwiliad y Pwyllgor i Gyllido Ysgolion yng Nghymru. Dyma ymateb ar y cyd i’r ymgynghoriad ar ran CLlLC a Chymdeithas Cyfarwyddwyr AddysgCymru (CCAC), wedi ei fwydo gan safbwyntiau Grŵp Cyllid CCAC a Gweithrediaeth Cymdeithas Trysoryddion Cymru. Gall awdurdodau lleol unigol hefyd gyflwyno eu hymatebion eu hunain sy’n adlewyrchu eu safbwyntiau euhunain.

 

Digonedd y ddarpariaeth ar gyfer cyllidebau ysgolion, yng nghyd-destun cyllidebau gwasanaethau cyhoeddus eraill a’r adnoddau sydd ar gael

 

4.                          Mae gwariant cyhoeddus ar addysg ar draws y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi bod ar ei hôl hi o’i gymharu â thwf Cynnyrch Domestig Gros ers 2010. Mae gwariant Llywodraethau Lleol yng Nghymru ar addysg wedi lleihau o 8% dros y 10 mlynedd diwethaf ar ôl cymhwyso i ystyried chwyddiant. Ni roddodd polisi Llywodraeth Cymru o ‘warchod' addysg yn ystod pedwerydd tymor y Cynulliad unrhyw gynnydd gwirioneddol i gyllidebau ysgolion yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae gwasanaethau eraill wedi gwneud yn well nac ysgolion dros gyfnod tebyg; mae gwariant ar ofal cymdeithasol wedi parhau ar oddeutu’r un lefel, ac mae gwariant ar iechyd wedi cynyddu o un rhan o bump wedi cymhwyso i ystyried chwyddiant. Fodd bynnag, mae gwariant ar y mwyafrif o wasanaethau cyhoeddus eraill wedi gweld lleihad mawr; o hyd at 60% mewn rhai achosion. Mewn cyfnod o gynni parhaus, mae awdurdodau lleol wedi ceisio gwarchod ysgolion (a gofal cymdeithasol) cymaint â phosib, a gwelwyd hyn ar draul gwasanaethau lleol eraill.

 

5.                          Mae CLlLC yn amcangyfrif y bydd pwysau ariannol addysg ar gyfer 2019-20 yn dod i gyfanswm o £109 miliwn ar gyfer costau’r gweithlu, chwyddiant cyffredinol, a chynnydd yn niferoedd disgyblion ysgol. Mae toriad arfaethedig yn 2019-20 hefyd, sydd yn golygu fod y bwlch gwirioneddol yn y gyllideb oddeutu £127 miliwn. Mae’r setliad llywodraeth leol yn esmwytho rhywfaint ar y bwlch gyda chyllid sy’n ariannu’r fargen gyflog yn rhannol, gan leihau’r bwlch i £105 miliwn cyn unrhyw incwm ychwanegol o dreth y cyngor. Nid oes unrhyw gyllid ychwanegol i ysgolion y flwyddyn nesaf i ymorol am ddyfarniadau cyflog i gynorthwywyr addysgu neu staff eraill, neu i ymorol am bwysau chwyddiannol eraill.

 

6.                          At hynny, ar adeg ysgrifennu'r ddogfen hon, nid oes unrhyw arian wedi ei ddarparu i dalu am gostau cynyddol Pensiynau Athrawon yr amcangyfrifir eu bod oddeutu £41 miliwn ar gyfer 2019-20 a £70 miliwn mewn blwyddyn lawn. Golyga hyn y bydd gwasanaethau addysg ac ysgolion yn enwedig yn wynebu penderfyniadau eithriadol anodd wrth geisio cydbwyso eu cyllidebau, gyda diswyddo gorfodol yn anorfod oni bai y buddsoddir arian newydd sylweddol yn y gwasanaeth.

 

7.                          Mae balansau ysgolion yn un dangosydd posib o wytnwch ariannol ysgol. Dros gyfnod o ddeng mlynedd, mae’r lleihad gwirioneddol ym malansau ysgolion wedi cyrraedd 40%. Mae nifer yr ysgolion sydd mewn sefyllfaoedd o ddiffyg ariannol wedi cynyddu o 4%, a gwelwyd cynnydd o gymaint â theirgwaith yn y diffyg hwn wedi cymhwyso i ystyried chwyddiant.

 

8.                          Mae digonolrwydd y lefel absoliwt o gyllid ar gyfer darparu addysg statudol wedi cael ei herio yn gyson o’i gymharu â rhannau eraill o’r DU. Mae’n gydnabyddedig ei bod wedi mynd yn anodd gwneud y fath gymariaethau oherwydd y gwahaniaethau cynyddol mewn systemau addysg cenedlaethol. Mae Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn y modd y mae’n cyllido Llywodraeth Leol ac Addysg trwy gyfochri’r sefyllfa â maint toriadau i gyllid yn Lloegr sydd, yn ôl ei honiad, wedi bod yn uwch. Beth bynnag am y modd y mae cyllido yng Nghymru yn cymharu â sefyllfa ein cymdogion, mae’n gwbl glir fod toriadau gwirioneddol sylweddol yn parhau yn lefel y cyllid craidd sydd ar gael dros amser unwaith y cymerir newidiadau cyllid â graddfa'r cynnydd mewn costau a’r disgwyliadau a chyfrifoldebau / mentrau polisi cynyddol a osodir ar awdurdodau lleol ac ysgolion.

 

9.                          Mae ysgolion yn wynebu gofynion cynyddol yn ymwneud ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a diwygio cwricwlwm. Fodd bynnag, nid yw’r meysydd hyn yn derbyn cyllid digonol. Dylai Ymyrraeth Gynnar a Darpariaeth Ataliol gael eu blaenoriaethu, gyda chynnydd mewn cyllid tuag at feysydd sy’n ymwneud â’r Blynyddoedd Cynnar a’r Cyfnod Sylfaen. Yn yr un modd, mae nifer o rwystrau i ddysgu y mae disgyblion o gefndiroedd o fewn lleiafrifoedd ethnig - y sawl sydd â Chymraeg/Saesneg fel iaith ychwanegol a phlant a phobl ifanc o deuluoedd teithwyr - yn eu hwynebu yn ystod eu cyfnod mewn addysg. Ni ellir sicrhau cyfleoedd cyfartal i’r disgyblion hyn heb gefnogaeth wedi ei thargedu a’i ariannu’n ddigonol.

10.                   Ar hyn o bryd, ymddengys fod mwyafrif y cyllid ataliol yn cael ei ddyrannu i’r Gwasanaeth Iechyd. Er fod gweithio mewn partneriaeth yn galluogi i fentrau penodol gael eu rhoi ar waith mewn ysgolion, pe bai awdurdodau lleol ac ysgolion yn cael ei cyllido’n briodol, gellid gwahaniaethu cefnogaeth a’i dargedu'n fwy priodol, gan arwain at effaith fwy ar les disgyblion unigol.

 

11.                   Nid yw awdurdodau lleol yn derbyn cyllid digonol ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion cymhleth y mae angen darpariaeth arbenigol ar eu cyfer. Nid oes eglurder llwyr o ran anghenion addysgol y disgyblion hyn o’u cymharu â’u hanghenion iechyd. Golyga hyn fod Ysgolion Arbennig yn gorfod talu’r bil am gostau meddygol a nyrsio a ddylai fod yn disgyn ar y Byrddau Iechyd.

 

 

Y graddau y mae lefel y ddarpariaeth ar gyfer cyllidebau ysgolion yn cyfrannu at neu’n rhwystro cyflenwad amcanion polisi Llywodraeth Cymru

 

12.                   Mae’n uchelgais gan Gymru fod ei holl ysgolion yn datblygu fel sefydliadau dysg gan lynu at egwyddorion y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Credir fod gan ysgolion sydd yn sefydliadau dysg y gallu i addasu yn gyflymach ac archwilio dulliau newydd o weithio, fel modd o wella dysgu a deilliannau i’r holl ddysgwyr. Fodd bynnag, heb gyllid digonol i ddarparu lefelau priodol o ran cynhwysedd y system a chefnogaeth i grwpiau o ddisgyblion sy’n agored i niwed a’r rhai hynny sydd ag anghenion ychwanegol neu gymhleth; wedi’i baru â chyllid craidd annigonol i ysgolion, mae’n anodd cymryd agwedd optimistaidd tuag at y tebygolrwydd o wireddu’r uchelgais hon.

 

13.                   Mae darpariaeth addysg statudol craidd yn hanfodol yn y gwaith o gyflawni amcanion tymor hwy Llywodraeth Cymru, ac mae angen cydnabyddiaeth gyson i’r ffaith yma. Dim ond effaith gyfyngedig y gall mentrau byrdymor, waeth pa mor dda fo’r bwriad, ei gael heb gynnal lefel briodol o adnoddi a darpariaeth graidd.

 

14.                   Mae denu a chadw gweithlu addysgu digonol yn hanfodol i’r polisi. Athrawon yw’r adnodd pwysicaf mewn ysgolion ac mae ansawdd ac effeithiolrwydd eu haddysg yn hanfodol i ddisgyblion ddysgu (Rockoff, 2004; OECD, 2005). Mae bwriad y cyllid grant o £15 miliwn ar draws Gymru tuag at ddatblygiad proffesiynol yn dda, ond bydd yn ddarostyngedig i feini prawf penodol. Bydd ar gael i ysgolion ar adeg pan fydd lleihau ar gyllid craidd a’r angen i ysgolion gydbwyso eu cyllidebau yn arwain yn anorfod at ddiswyddiadau. Gellid bod wedi gwneud defnydd gwell o’r cyllid hwn i sicrhau cyllidcraidd digonol tuag at gyflog a phensiynau athrawon. Pe bai ysgolion yn derbyn lefelau priodol o gyllid craidd, gallent fforddio cael mynediad at gyfleoedd dysgu proffesiynol heb gyllid grant a chyfyngiadau’r fiwrocratiaeth sydd ynghlwm ag o.

 

15.                   Dengys data fod nifer y disgyblion sydd ag AAA wedi cynyddu yn flynyddol ers 2015, ac ers 2012 bu cynnydd o dros 2,000 o ddysgwyr y nodir bod AAA ganddynt. O un flwyddyn i’r llall, gwelwyd cynnydd yn y gwariant ar AAA, gyda chynnydd graddol hefyd yn y gwariant ar ysgolion arbennig a chyllid craidd a phrif ffrwd yn aros fwy neu lai'r un fath mewn termau ariannol. Mae gwariant awdurdodau lleol ar y gwaith o gefnogi disgyblion sydd ag AAA wedi tyfu’n flynyddol ac yn 2018-19, gwelwyd cynnydd o £8.8 miliwn neu 2.4% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae'r gwariant ar bob disgybl yng Nghymru wedi cynyddu o £789 yn 2015-16 i £844 yn 2018-19; cynnydd o

£55 am bob disgybl. Mae’r cyllid a ddelir yn ganolog wedi lleihau o 30% o’r holl gyllid yn 2014-15 i 27% yn y flwyddyn bresennol. Mae’r cyllid a ddyrannir i Ysgolion Arbennig wedi cynyddu o 24% o’r holl gyllid yn 2014-15 i 27% yn y flwyddyn bresennol.

 

16.                   Gyda chyflwyniad Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) bydd pwysau sylweddol ar amser gweithwyr er mwyn ymgymryd â datblygu proffesiynol ac uwchsgilio estynedig wrth baratoi at roi’r Côd Ymarfer newydd ar waith. Bydd yn ofynnol i hyfforddi staff ar bob lefel yn ogystal â hyfforddiant a datblygu dwysach i Gydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol. Er y bydd pecynnau hyfforddi cenedlaethol cyffredin ar gael, bydd angen i’r rhain gael eu darparu yn lleol gan awdurdodau lleol ac/neu ysgolion y bydd angen amser ac adnoddau digonol arnynt i sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu’n effeithiol. Gyda ymestyniad yr ystod oedran statudol o 0 i 25, a throsglwyddiad y cyfrifoldeb am leoliadau arbenigol ôl-16 i Awdurdodau Lleol, gellid gweld costau ychwanegol yn y gwaith o fodloni anghenion dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

 

17.                   Mae ‘Haen 2’ y genhadaeth genedlaethol yn rhy gyffredinol ac yn ddiffygiol mewn eglurder a thryloywder, yn enwedig mewn perthynas â chonsortia rhanbarthol a ‘brigdoriant’ y cyllid sydd ar gael sy’n cael ei sianelu’n gynyddol trwy gonsortia. O ganlyniad, mae peryg y bydd dylanwad cyllid o’r fath yn aneffeithiol a’i fod yn cyfyngu cyllid a allai gael ei gyfeirio fel arall tuag at gefnogi darpariaeth rheng flaen o fewn ysgolion.

 

18.                   Ymddengys fod anghysonder rhwng amcanion Llywodraeth Cymru i leihau lleoedd gwag ar un llaw ond ar yr un pryd i gynyddu’r lleoedd cyfrwng-Cymraeg y tu hwnt i’r galw cyfredol sydd wedi ei adnabod ac amddiffyn ysgolion bychan a gwledig. Mae’r mentrau polisi hyn yn gofyn am gyllid ychwanegol sylweddol os ydynt am gael eu gwireddu. Gwnaethpwyd peth cyllid grant ar gael i ysgolion gwledig bychain ond eto, dim ond yn unol â meini prawf penodol y gellir ei ddefnyddio a pheth bynnag am hynny, cyfanswm ydyw o £2.5 miliwn y flwyddyn yn unig (£10 miliwn dros 4 blynedd) ar draws Gymru gyfan.

 

19.                   Mae datgloi potensial pob plentyn wrth wraidd strategaeth Llywodraeth Cymru dros addysg, ac mae’n adlewyrchu erthygl 29 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Mae gan Lywodraeth Cymru ddyheadau mawr dros yr holl ddysgwyr yng Nghymru, ac mae’n ymroddedig tuag at gefnogi llwyddiant disgyblion o bob cefndir. Mae’r weledigaeth hon yr un mor wir ar gyfer ein disgyblion o leiafrifoedd ethnig y gall fod arnynt angen cefnogaeth ieithyddol a’u Saesneg ac/neu eu Cymraeg, neu sy’n wynebu’r risg o dangyflawni am resymau eraill. Mae’n gydnabyddedig fod angen cefnogaeth ychwanegol ar rai disgyblion er mwyn iddynt allu manteisio’n llawn ar y cyfleoedd addysgol sydd ar gael yng Nghymru, ac eto, mae’r cyllid sydd ar gael ar gyfer y gefnogaeth hanfodol hon wedi ei dorri, ac fe all wynebu cael ei ddiddymu’n llwyr yn dilyn 2019/20.

 

20.                   Methodd penderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ddiddymu cyllid y Grant Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig fel rhan o gyllideb 2017/8 ag ystyried blaenoriaethau’r Llywodraeth bresennol. Er enghraifft: Mae ‘Ffyniant i Bawb: y Strategaeth Genedlaethol’ yn cyflwyno gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru sydd yn le egnïol, goddefgar a chroesawgar i fyw a gweithio; gwlad sydd ag agwedd ryngwladol lle y gall pobl o bob cefndir gael eu parchu a’u gwerthfawrogi. Mae’n nodi ymroddiad i barhau â gwaith yn erbyn gwahaniaethu ac i sicrhau cyfleoedd i bawb.

 

21.                   Cynyddu cydlyniant cymunedol a chwalu rhwystrau o fewn ein cymdeithas yw rhai o’r deilliannau cadarnhaol y mae cyllid y Grant Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig wedi eu darparu ers blynyddoedd yn ein cymunedau, yn enwedig yn ein hardaloedd trefol. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei chynllun Cydlyniant Cymunedol yn fuan, a disgwylir y bydd iddo bedair thema:

 

·         Gwaith ar lefel strategol i gynyddu cydlyniant cymunedol a chynhwysiant.

·         Gwaith ar lefel leol i chwalu rhwystraurhag cynhwysiant ac integreiddio sy’n wynebu grwpiau a chymunedau penodol.

·         Cefnogaeth i fewnfudwyr, ffoaduriaid a cheiswyrlloches a chymunedau sefydledig yn ystod y broses integreiddio.

·         Cefnogaeth i gymunedauer mwyn rhwystro a rheolitensiynau cymunedol, gelyniaeth ac eithafiaeth.

 

22.                   Eto, gwelir fod y themâu hyn yn cydweddu’n uniongyrchol ag amcanion a deilliannau cyllid y Grant Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig.

 

Fformiwla gyllido llywodraeth leol a’r pwysoli a roddir i addysg ac i gyllidau ysgolion yn benodol o fewn y Setliad Llywodraeth Leol

 

23.                   Mae’r fformiwla a ddefnyddir i gyllido addysg ac yn wir pwysoli addysg o’i gymharu â gwasanaethau eraill i raddau helaeth yn ddyfais fecanyddol a adolygwyd ddiwethaf yn 2001 er na sefydlwyd rhai o’r fformiwlâu yn eu ffurf derfynol am ychydig flynyddoedd wedihynny.

 

24.                   Mae’n bur debyg y gallai dyluniad y fformiwlâu feddiannu Ymholiad Pwyllgor cyfan ond craidd y peth yw bod y dull o bwysoli dangosyddion trwy ddadansoddiad ystadegol wedi cael ei gwestiynu gan yr aelodau llywodraeth leol a’r aelodau annibynnol sy’n rhan o’r Is-grŵp Dosbarthu. Maent wedi bod yn awyddus i archwilio’r posibiliadau o ran dod o hyd i ddull mwy tryloyw. Byddai hyn yn ei hanfod yn golygu edrych ar wariant ysgolion o bersbectif ‘y gwaelod i fyny’, gan ddarganfod yr ysgogwyr angen gwirioneddol, ac o ystyried nifer y disgyblion a’r deilliannau dysg y gobeithir eu cyflawni, beth yw’r mewnbynnau (costau) sylfaenol. Y cwestiwn ar gyfer yr Is-Grŵp Dosbarthu yw a fyddai modd datblygu model o’r fath gyda chytundeb yr holl fudd- ddeiliaid, neu a ddylai Llywodraeth Cymru weithio ar ddiweddaru’r fethodoleg bresennol?

 

25.                   Dylai unrhyw Lywodraeth sy’n ystyried newidiadau i fformiwla ar lefel genedlaethol neu leol ymrwymo i arian pontio a bod yn ymwybodol nad yw hyn yn effeithio ar ddeilliannau.

 

26.                   O ran a yw addysg yn cael ei 'bwysoli’ yn ddigonol o fewn y fframwaith SSA, caiff y penderfyniad ei wneud ar y cyfan mewn modd mecanyddol ac ar sail tystiolaeth. Caiff cyfran £2.24 biliwn Addysg (bron i 40%) o Gyfanswm y Gwariant Safonol o £5.66 biliwn ei benderfynu ar sail ffigyrau canlyniadol hanesyddol a data gwariant cyllideb a gesglir gan Lywodraeth Gymru o ddychwelebau awdurdodau lleol. Un agwedd bwysig ar y fformiwla yw ei fod yn fframwaith i ddosbarthu symiau cyfyngedig o arian; os nad oes digon o arian yn y system yna nid yw o bwys pa mor dda yw’r fformiwla.

Y berthynas, y cydbwysedd a’r tryloywder rhwng amryw ffynonellau cyllid i ysgolion, gan gynnwys cyllid craidd a chyllid wedi'i neilltuo.

 

27.                   Mae CLlLC wedi lobïo yn gyson ar ran llywodraeth leol i’r holl gyllid ar gyfer addysg gael ei drosglwyddo i mewn i’r Grant Cynnal Refeniw. Nid yn unig y byddai hyn yn sicrhau fod ysgolion yn derbyn lefelau priodol o gyllid craidd ond y byddai hefyd yn cael gwared ar y llwyth biwrocrataidd sylweddol sydd ynghlwm â neilltuo arian. Mewn blynyddoedd diweddar, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y grantiau unigol ar gyfer ysgolion a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r rhain yn aml wedi cael eu cyflwyno heb lawer o hysbysiad ymlaen llaw a gydag amserlen gyfyng i awdurdodau lleol roi ceisiadau llafurus at ei gilydd, gyda llwyddiant y ceisiadau hynny yn tueddu i adlewyrchu’r gallu i fformiwleiddio cais yn hytrach na darpariaeth gyfiawn amcanion polisi.

 

28.                   Mae rhai ffrydiau cyllid grant wedi bod ar gael ers nifer o flynyddoedd, a chanlyniad hyn yw dibynadwyedd ysgolion ar y cyllid hwn er mwyn darparu’r cynnig craidd, e.e. Grantiau Cyfnod Sylfaen a Datblygu Disgyblion. Arferai cyllid Gwella Ysgolion y Consortia Rhanbarthol fod yn ddigonol i ddarparu cymarebau Cyfnod Sylfaen yn ogystal â rhai elfennau o welliant ysgol. Mae hyn wedi ei dorri i’r fath raddau ei fod bellach yn annigonol hyd yn oed i ddarparu ar gyfer yr argymhellion Cyfnod Sylfaen yn unig.

 

29.                   Mae angen cynyddu ymddiriedaeth yng ngallu arweinwyr ysgolion i gyllido addysgu a dysgu yn gynaliadwy trwy gyllidebau craidd, gan leihau o ganlyniad ddibynadwyedd ar grantiau wedi’u neilltuo. Dylid dychwelyd cyllid ar gyfer y Cyfnod Sylfaen i’w lefelau blaenorol a’i drosglwyddo i’r Grant Cynnal Refeniw. Byddai trosglwyddiad yn cael gwared ar y llwyth gweinyddol a’r costau cysylltedig ynghyd â’r oedi diangen cyn i ysgolion gael eu hysbysu ynghylch eu dyraniad cyllid. Nid yn unig y byddai hyn yn fwy effeithlon, ond fe fyddai yn gwella digonolrwydd cyllid craidd ac yn rhoi mwy o hyblygrwydd i ysgolion o ran y modd y maent yn gwneud defnydd o’r cyllid sydd ar gael i weithredu ar flaenoriaethau allweddol a rennir â Llywodraeth Cymru.

 

30.                   Caiff dyfarniadau grant arwyddol weithiau eu darparu yn hwyr yn y gylchred cynllunio ariannol ac weithiau heb unrhyw welededd y tu hwnt i’r flwyddyn ariannol nesaf. Gyda’i gilydd, mae’r materion hyn yn arwain at fiwrocratiaeth a gweinyddu uwch na’r angen trwy’r system gyfan, ac maent weithiau’n achosi penderfyniadau rhagataliol neu ymatebol lle y gallai dyraniadau mwy hyblyg a/neu rybudd cynharach fod wedi arwain at gynllunio a deilliannau gwell. Mae ysgolion angen ymrwymiadau cyllid tymor hwy sy’n eu galluogi i gynllunio gwelliant dros gyfnod o dair blynedd o leiaf gyda sicrwydd uwch o ran cyllidebau.

 

31.                   Dylid darparu tystiolaeth o angen sylfaenol cyn cyhoeddi cyllid penodol ynghlwm â mentrau a chyfrifoldebau newydd, waeth pa mor dda yr ymddengys y syniadau hyn (e.e. grant ysgolion bychain a gwledig, rheolwyr busnes ysgolion, cyllid i leihau maint dosbarthiadau ayyb.). Mae brigdoriant cyllid ar gyfer y mentrau hyn wedi erydu cyllid craidd ysgolion, gyda’r canlyniad fod ysgolion yn chwilio am gyllid atodol ar gyfer eu hanghenion sylfaenol. Ni ellir cyfiawnhau’r sefyllfa hon.

 

32.                   Mae diffyg tryloywder dros yr ymdriniaeth â chyllid ar gyfer y Grant Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig yn 2018/19 ac ansicrwydd parhaus ynghylch dyfodol y cyllid hwn yn tanseilio’r gwaith o gynllunio darpariaeth ar gyfer y grwpiau hyn o ddysgwyr sy’n agored i niwed yn ogystal â rhoi niferoedd uchel o staff mewn perygl o gael eu diswyddo.

 

33.                   Honnodd Llywodraeth Cymru i’r cyllid hwn gael ei dorri o’r Grant Gwella Addysg ac iddo gyfrannu at y £170 miliwn ychwanegol a aeth tuag at y setliad ar gyfer addysg a gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, unig effaith hyn fyddai lleihau'r toriad cyfan i gyllid awdurdodau lleol. Daeth yn amlwg wedyn nad oedd y cyllid i gefnogi’r dysgwyr agored i niwed hyn wedi trosglwyddo i mewn i’r Grant Cynnal Refeniw. Mae lefel is o gyllid wedi cael ei adfer ar gyfer 2018/19 trwy gyfrwng grant. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’r un lefel o gyllid ar draws Cymru ar gyfer 2019/20, ond hyd yma nid yw wedi rhoi gwybod i Awdurdodau Lleol ynglŷn â'r symiau a ddyfarnwyd iddynt. Eto, mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd i awdurdodau lleol gynllunio eu gwasanaethau ar gyfer y flwyddyn sydd o’u blaenau, ac yn gohirio’r ansicrwydd sy’n wynebu staff. Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn fod gwasanaethau rhanbarthol yn cael eu datblygu, ond nid yw wedi addo unrhyw gyllid ar ôl 2019/20 ar gyfer darpariaeth ranbarthol.

 

34.                   Ni chafwyd dim cysur ynghylch y sefyllfa a amlinellwyd uchod gyda chyhoeddi dyfarniad ym Mawrth 2017/18 o £14 miliwn tuag at gynnal a chadw adeiladau ysgolion. Roedd yn eglur mai bwriad Llywodraeth Cymru oedd dyrannu cyllid yn uniongyrchol i ysgolion er mwyn cynorthwyo â phwysau ariannol cyffredinol. Fodd bynnag, gallai peth o’r cyllid hwn fod wedi cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol er mwyn cynnal cefnogaeth arbenigol dros y flwyddyn i ddod. Effaith y gofyniad ar ysgolion i osod y cyllid hwn yn erbyn costau cynnal a chadw a ysgwyddwyd yn 2017/18 oedd cynyddu’r swm a gariwyd ymlaen i 2018/19 ym malansau’r ysgolion. Tra nad oedd effaith hyn yn arbennig o arwyddocaol ar lefel ysgolion unigol, cafodd y cynnydd ffug ei nodi ar lefel yr awdurdod lleol ac ar lefel Cymru gyfan. Nid oedd y cwrs gweithredu hwn yn ddefnyddiol iawn o ystyried beirniadaeth flaenorol Llywodraeth Cymru ar lefel balansau ysgolion yng Nghymru.

 

35.                   Ymddengys fod amharodrwydd cynyddol i ariannu ysgolion trwy’r Grant Cynnal Refeniw. Ceir tystiolaeth i hyn yn y twf yn nifer y grantiau – boed wedi eu dyrannu i gonsortia, ysgolion neu awdurdodau lleol. Mae hyn yn lleihau hyblygrwydd awdurdodau lleol i dargedu adnoddau mewn modd priodol i fodloni blaenoriaethau cenedlaethol fel ei gilydd ac, yn bwysicach fyth, yn lleihau’r cyllid craidd sydd ar gaeli ysgolion.

 

36.                   Mae’r dull yma yn annealladwy pan ystyrir y flaenoriaeth a roddwyd gan awdurdodau lleol i addysg mewn blynyddoedd diweddar a’r cynnydd yn y ganran o gyllid addysg a ddirprwyir i ysgolion.

 

Esgeulustod Llywodraeth Cymru o ran y modd y mae Awdurdodau Lleol yn gosod cyllidebau ysgolion unigol gan gynnwys, er enghraifft, y pw ysoliad a roddir i ffactorau megis proffil oedran disgyblion, iaith y ddarpariaeth, nifer y disgyblion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a darpariaeth cyn oedran ysgol gorfodol

 

37.                   Mae esgeulustod Llywodraeth Cymru tuag at y modd y mae awdurdodau lleol yn gosod cyllidebau ysgolion unigol yn cynnwys yr adolygiad o’r ddychweleb flynyddol o wybodaeth amrywiol gan awdurdodau lleol, megis y Daflen Ddatgan Cyllideb Adran

52. Mae’n ofynnol i Awdurdodau Lleol lynu at y Rheoliadau Cyllido Ysgolion a chynnwys eu Cynlluniau Ariannu a Fformiwlâu Cyllido Ysgolion eu hunain pan yn cynhyrchu eu dyraniadau cyllid blynyddol i ysgolion.

 

38.                   Gwnaeth Llywodraeth Cymru gais yn ddiweddar i awdurdodau lleol gwblhau datganiad ariannol manwl ad hoc, sydd yn awgrymu nad oedd modd cael y wybodaeth angenrheidiol o’r datganiadau blynyddol safonol a gwblheir gan awdurdodau lleol. Byddai cynnwys, cysondeb a chymhared y datganiadau blynyddol cyfredol a’r wybodaeth a ddarperir gan awdurdodau lleol drwyddynt yn manteisio o gael ei adolygu er mwyn penderfynu a ellid datblygu dull o gasglu data sy’n symlach ac yn llawnach o wybodaeth.

 

39.                   Mae Grŵp Cyllid CCAC yn galluogi rhannu gwybodaeth fanwl ynglŷn chasglu fformiwlâu ariannu a gwariant ysgolion awdurdodau lleol unigol. Mae enghreifftiau o arferion da yn cynnwys:

·         Awdurdodau lleol yn adolygu ac yn rhoi newidiadau sylfaenol ar waith ar eu fformwlâu ariannu, gan ymgysylltu’n llawn ag ysgolion.

·         Rhanbarthau’n cydweithio i adolygu a chymharu eu fformwlâu ariannu ysgolion unigol.

·         Mae CCAC yn parhau i ddatblygu meincnodau ariannol ar gyfer ysgolion ledled Cymru. Er nad yw hyn ar gael fel set ddata gyflawn hyd yma, mae gallu Awdurdodau Lleol ac ysgolion i gymharu gwariant (a chyllid ac incwm yn y dyfodol) yn gwella.

 

40.                   Mae’n glir fod dealltwriaeth ar y cyd o fformwlâu ariannu ysgolion awdurdodau lleol unigol yn cael ei ddatblygu. Mae’n bwysig nodi fod y dysgu hwn yn cael eu ystyried ar y cyd â ffactorau cyd-destunol, gan esgor ar fformiwla ariannu sy’n bodloni anghenion lleol yn effeithiol. Mae’n ymddangos hefyd fod awdurdodau lleol yn datblygu eu dulliau deallus eu hunain o fonitro ac adolygu, yn seiliedig ar drafodaeth yn hytrach na model cydymffurfedd mecanyddol nad yw’n ystyried anghenion lleol.

 

41.                   Mae’n rhaid i gyfrifoldeb cynyddol ysgolion am eu cyllideb eu hunain gael ei baru ymhellach â mecanweithiau hunanwerthuso ac atebolrwydd effeithiol o fewn yr ysgolion hynny. Mae angen rheoliadau mwy hyblyg er mwyn rhwystro ysgolion rhag cronni balansau gormodol ac i alluogi i gyllid o’r fath gael ei ail-ddyrannu mewn modd effeithiol.

 

42.                   Tra bod swyddogaeth fonitro Llywodraeth Cymru wedi’i sefydlu’n gadarn, credir fod gormod o gyllid yn cael ei neilltuo ar gyfer mentrau penodol heb y ddealltwriaeth angenrheidiol o gyd-destun a blaenoriaethau lleol. Mae’n gyfrifoldeb ar y llywodraeth genedlaethol i osod polisi, a dylai'r modd y gall polisi gael ei weithredu yn fwyaf effeithiol ac effeithlon fod yn benderfyniad i lywodraeth leol mewn partneriaeth ag ysgolion. Mae gormod o brosiectau a ariannwyd yn uniongyrchol wedi achosi i adnoddau gael eu defnyddio’n aneffeithlon gyda’u heffaith yn gyfyngedig, e.e. Her Ysgolion Cymru. Dylid bod wedi trosglwyddo’r cyllid hwn i mewn i’r Grant Cynnal Refeniw i gefnogi darpariaeth ystafell ddosbarth i bobdisgybl.